GAIR O GROESO GAN Y CADEIRYDD

Yn fy rôl fel Cadeirydd Bwrdd Tai Cymunedol Bron Afon, rwy’n rhan o dîm cryf a medrus o bobl sy’n gweithio’n dda gyda’n Prif Weithredwr a’r Tîm Rheoli Strategol i lunio’r cyfeiriad strategol a’r polisïau sy’n cyflawni blaenoriaethau Bron Afon.

Ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd y Bwrdd yn awr am bron i 9 mlynedd, bydd yn rhaid i mi gamu i lawr yn fuan oherwydd, yn anffodus, byddaf wedi cyrraedd yr uchafswm cyfnod yn y swydd. Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod yn arwain y Bwrdd yn fawr ac rydw i’n falch iawn o’r gwaith rydym ni i gyd wedi’i wneud fel tîm i wneud gwahaniaeth go iawn i’r cwsmeriaid a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu. 

Mae ein Is-gadeirydd sydd hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Sicrwydd hefyd yn nesáu at ddiwedd ei gyfnod, felly mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio dyfodol y sefydliad wrth symud ymlaen.

Mae Strategaeth Gorfforaethol newydd Bron Afon yn rhoi gweledigaeth glir:

“Rydym ni’n gallu helpu i greu cymunedau diogel a chynaliadwy lle mae gan bawb
le y maen nhw’n falch o’i alw’n gartref.”

Felly, rydym yn croesawu diddordeb gan bobl sydd wir yn credu y gallant ychwanegu gwerth at y weledigaeth hon a sicrhau ein bod yn darparu Gwasanaethau Cwsmeriaid Gwych; Darparu Cartrefi o Ansawdd Uchel; Adeiladu Cartrefi Newydd; a’n bod yn adeiladu Partneriaethau a Chymunedau effeithiol.

Ond nid tai yw’r unig beth rydym ni’n ei wneud. Rydym ni’n fenter gymdeithasol sy’n cael ei rhedeg gan ein staff a’n haelodau. Rydym ni wrth ein bodd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy’n angerddol dros ddefnyddio eu sgiliau i wneud eu marc a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl a chymunedau.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i bob person a sefydliad. Felly, wrth i ni ddod allan o’r pandemig a pharhau i ddelio â’r heriau costau byw, rydym ni’n trawsnewid y ffordd mae’r sefydliad yn gweithredu gan ddod yn fwy ystwyth, effeithiol ac effeithlon yn y ffordd rydym ni’n darparu gwasanaethau i’n tenantiaid a’n cwsmeriaid. Rydym yn awyddus i ddod â sgiliau a phrofiad ychwanegol i’n Bwrdd a thimau ein Pwyllgorau.

Y gallu i gydweithio, meithrin perthnasoedd cryf, arwain a chyfrannu at benderfyniadau effeithiol ac amserol, ac ennyn ffydd yn uchelgais a phwrpas Bron Afon, yw rhai o’r gwerthoedd sy’n bwysig iawn i ni.

Rwy’n cydnabod yn llwyr y bydd un o’r rolau’n fy nisodli'n uniongyrchol fel Cadeirydd y Bwrdd. Yr wyf felly wedi gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Pobl a Llywodraethiant, Mandy Edfuls, arwain y broses recriwtio. Bydd Mandy yn gwneud hyn ochr yn ochr â’n Prif Weithredwr, Alan Brunt, ond rydw i’n barod ac ar gael i ddarparu cyfleoedd anffurfiol i ddarpar ymgeiswyr gael rhagor o wybodaeth.

Rydym ni ar daith gyffrous, gyda phwrpas go iawn. Os ydych chi’n rhannu ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, dewch i ymuno â ni a helpu i arwain Bron Afon a’r tîm!

Andrew Lawrence, Cadeirydd y Bwrdd